Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
6 Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5566
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 9. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-6. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau ynghylch ailwampio mawr ar y gêm broffesiynol yng Nghymru?
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad.
Dechreuodd yr eitem am 15.34
NDM6981 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) Adran 2;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 3-14;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 15-30;
f) Atodlen 3;
g) Adrannau 31-41;
h) Atodlen 4;
i) Adrannau 42-74;
j) Atodlen 5;
k) Adrannau 75-80;
l) Adran 1;
m) Teitl hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.34
NDM6983 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM6978 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod angen cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.55
NDM6982 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad’ a gasglodd 6,345 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM6980 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Gwastatir Gwent: Tirwedd Unigryw a Hanesyddol
Daeth y cyfarfod i ben am 17.56
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2019